Archwilio sut mae 'ysgolion pob oed' yn gweithredu yng Ngwlad yr Iâ

Yn ystod mis Tachwedd aeth staff o Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe (SUSE) gydag athrawon o Gymru ar ymweliad astudio â Gwlad yr Iâ.

Dewiswyd yr athrawon o 'ysgolion pob oed' yng Nghymru. Mae ysgolion pob oed yn cyfuno cyfnodau cynradd ac uwchradd yn yr un sefydliad, gan ddarparu lleoliad parhaus i ddisgyblion trwy gydol y cyfnodau addysg. Er bod ysgolion pob oed yn ddatblygiad diweddar a chynyddol yng Nghymru, yng Ngwlad yr Iâ, y norm yw ysgolion ar gyfer plant rhwng 6 ac 16. Felly, nod yr ymweliad oedd i athrawon archwilio sut mae 'ysgolion pob oed' yn gweithredu yng Ngwlad yr Iâ o'u cymharu â'u lleoliadau eu hunain.

Yn ystod y daith, ymwelodd athrawon ag amrywiaeth o ysgolion a dysgu am system addysg Gwlad yr Iâ. Roedd yr ymweliadau'n cynnwys teithiau o amgylch yr ysgolion, ynghyd â thrafodaethau addysgiadol gyda staff a myfyrwyr. Ochr yn ochr â hyn, gwnaeth staff Prifysgol Abertawe gysylltiadau â Phrifysgol Gwlad yr Iâ gyda'r gobaith o gynnal ymchwil ryngwladol bellach i ysgolion pob oed yn y dyfodol. Roedd y daith hefyd yn caniatáu i'r athrawon o Gymru rannu eu profiadau eu hunain o weithio mewn ysgolion pob oed a sefydlu perthnasoedd rhannu gwybodaeth.

Bydd staff o Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe (SUSE) yn cymryd rhan mewn taith debyg i Sweden y flwyddyn nesaf. 

Mae staff yr Ysgol Addysg yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion pob oed yng Nghymru ac yn rhyngwladol, i ymchwilio i effaith yr ysgolion hyn ar eu myfyrwyr, eu hathrawon, a'r systemau addysg y maent wedi'u lleoli ynddynt.

Gadael ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Meysydd gofynnol wedi'u marcio *

Hysbysiadau HYSBYSIAD
Fforwm Ysgolion Pob Oed yn croesawu Ysgol Bro Caereinion yn gynnes i'n fforwm.
GWELD POPETH
Cyfarfodydd i ddod
Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!
English English Cymraeg Cymraeg