Astudiaeth gymharol o addysgeg, arweinyddiaeth a lles mewn lleoliadau ysgol bob oed. Ymchwil a gyhoeddwyd gan…
Chwiliwch holl adnoddau diweddaraf Ysgolion Pob Oed.
Mae'r wefan hon yn estyniad o Fforwm Ysgolion Pob Oed Cymru, sydd wedi bod yn rhannu syniadau ers 2017 a diolchwn i LlCC Addysg am ariannu'r prosiect.
Mae'r sector arloesol hwn wedi tyfu o ddwy ysgol yn 2012 i 26 yn 2020. Ar y cychwyn, enillwyd ein dealltwriaeth a'n gwybodaeth o'r ffordd orau i wneud i'n hysgolion gyflawni eu potensial trwy dreial a chamgymeriad. Yn fwy diweddar mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu trwy ein cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe. Mae yna gorff helaeth o wybodaeth a phrofiad o hyd mewn ysgolion unigol a allai fod o fudd i eraill ar wahanol adegau ar eu taith.
Mae'n amlwg y gall Ysgolion Pob Oed gynnig rhywbeth gwahanol a chyffrous. Er eu bod yn strwythurau cymhleth yn eu hanfod i'w sefydlu a'u rheoli, gall deall yn fanwl sut mae eraill yn gweithredu gefnogi arweinwyr i ddatblygu eu Hysgolion Pob Oed. Yn syml, ein nod yw rhannu ein gwybodaeth trwy'r wefan hon er budd pawb.
Huw Lloyd
Cadeirydd 20/21
Astudiaeth gymharol o addysgeg, arweinyddiaeth a lles mewn lleoliadau ysgol bob oed. Ymchwil a gyhoeddwyd gan…
Diweddariadau a newyddion diweddaraf
Mae'r wefan hon yn estyniad naturiol o Fforwm Ysgolion Pob Oed Cymru, sydd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhannu syniadau ers 2017 a diolchwn i LlCC Addysg am ariannu'r prosiect hwn.
Hawlfraint © 2021 – 2023. Ysgolion Pob Oed Fforwm Ysgolion Pob Oed | Hysbysiad preifatrwydd gwefan
Gwefan wedi'i dylunio a'i chynnal gan EveryDesign.org © Cedwir Pob Hawl