Fforwm Ysgolion Pob Oed – Cyflwyno'r Holiadur Ymchwil
Ysgol neu Ysgolion sy'n Cymryd Rhan:
Ysgol Bro Hyddgen
Awdurdod lleol a/neu gonsortia?
Powys
Ymchwilwyr Staff sy'n Cymryd Rhan:
Caryl Morgans
Rhian Griffiths
Catrin Jones
Thema:
Arall
Os “arall” nodwch:
Datblygu system asesu o fewn MDPh Mathemateg a Rhifedd
Rhesymeg dros y dewis thema:
Wrth werthuso canlyniadau’r holiadur adborth myfyrwyr ar “Ymateb i Adborth”, daeth yn amlwg bod y broses asesu yn aneffeithiol o fewn ein Maes Dysgu a Phrofiad. Yn ogystal, nid oedd yn ddefnydd gwerthfawr o’n hamser gan nad oedd dysgwyr yn hyderus i ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r herwydd. At hynny, roeddem yn teimlo bod dysgwyr yn edrych yn ôl yn hytrach nag ymlaen at wneud cynnydd.
Beth oedd cwestiwn yr ymchwil?
Archwilio strategaethau effeithiol ar gyfer asesu gwaith myfyrwyr sy'n arwain at gynnydd annibynnol gan ddysgwyr.
Pa ddyluniad ymchwil a ddefnyddiwyd?
Ymchwil Ymarferwyr. (Ymchwil gan ymarferwyr ysgol).
Os “arall” nodwch.
Ymchwil Ymarferwyr
Dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd.
Holiaduron, cyfweliadau, arbrofion.
Os “arall” nodwch.
Casglu barn myfyrwyr trwy holiaduron a chyfweliadau. Arbrofi gyda gwahanol ddosbarthiadau.
Sut y defnyddiwyd y cyllid i ddarparu adnoddau ar gyfer y dyluniad?
Staff cyflenwi.
Os “arall” nodwch.
Cyflenwad staff.
Beth oedd amcanion yr ymchwil?
Anelwyd at gasglu barn myfyrwyr ar ddull asesu'r ysgol drwy greu holiadur adborth myfyrwyr a chyfweld myfyrwyr.
Beth oedd canlyniadau'r ymchwil?
Roedd dros hanner y myfyrwyr yn darllen yr adborth ysgrifenedig yn achlysurol neu byth, gyda llai na chwarter ohonynt yn cytuno bod adborth ysgrifenedig yn werthfawr. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dal i ymateb i adborth yn achlysurol neu weithiau, ond nid oedd myfyrwyr yn siŵr a oeddent yn gwneud cynnydd o ganlyniad i'r adborth.
Sut mae’r broses ymchwil wedi effeithio ar yr ysgol?
Rydym ni, fel athrawon, yn rheoli ein hamser i asesu yn llawer mwy effeithiol. Mwynhaodd y myfyrwyr y broses ac roeddent yn cymryd rhan weithgar ynddi, gan arwain at ddysgu. O ganlyniad, mae myfyrwyr yn gweld cynnydd yn eu gwaith ac yn edrych ymlaen yn hyderus gan fod y gwaith wedi'i lefelu'n briodol gyda phob myfyriwr yn derbyn lefel her briodol.
Beth, os o gwbl, yw'r meysydd posibl ar gyfer ymchwil dilynol?
Rydym yn ystyried caniatáu i fyfyrwyr ddewis eu symbolau eu hunain gyda thrafodaeth gyda'r athro yn trafod eu cyrhaeddiad. Er enghraifft, pe bai dysgwr yn rhoi symbol triongl drostynt eu hunain a bod yr athro yn cytuno, byddent wedyn yn parhau ar y symbol hwnnw. Ar y llaw arall, os yw’r athrawes yn anghytuno â’r symbol, byddai trafodaeth i ystyried sgilio pellach trwy wylio fideo youtube ar hoff bwnc y sgwâr. Trwy wneud hyn, mae'n galluogi myfyrwyr i fyfyrio'n aeddfed ar eu dealltwriaeth a'u cyrhaeddiad. Bydd angen cynnal trafodaeth cyn y wers asesu gan ystyried cyfyngiadau amser.
Sut mae unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r ymchwil wedi'u gweithredu?
Rydym yn gweithredu’r dull asesu newydd gyda dosbarthiadau o flynyddoedd 7 – 11 erbyn hyn.
A all yr ysgol wneud argymhellion i ysgolion eraill yn seiliedig ar yr ymchwil?
Rydym eisoes wedi rhannu’r arfer mewn cynadleddau ledled y wlad.
Ymarfer ymchwil moesegol
Mae'r ysgol yn cadarnhau bod yr ymchwiliad y manylir arno uchod wedi'i gynnal yn unol â Chanllawiau Moesegol ar gyfer Ymchwil Addysgol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain 2018. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys caniatâd cyfranogwr, tryloywder, yr hawl i dynnu'n ôl, cymhellion, osgoi niwed, preifatrwydd a storio data, a datgelu.
Awdur yr Adroddiad:
Caryl Morgans
Dyddiad yr Adroddiad:
29-02-2024
Diolchiadau
Caryl Morgans, Rhian Griffiths a Catrin Jones
Ysgolion sydd wedi'u cynnwys yn yr YMCHWIL:
Ysgol Bro Hyddgen
AWDURON
Caryl Morgans
Gadael ymateb