Dafydd Hughes

Dafydd Hughes
Ysgol Caer Elen
Ysgol 3-16

Bio

Ar ôl cyfnod hir o weithio fel aelod o’r UDA yn Ysgol y Preseli ymgymerais â fy rôl fel Pennaeth Ysgol Caer Elen ym mis Chwefror 2021. Mae strwythur Uwch Arweinyddiaeth Caer Elen yn cynnwys Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, 2 Bennaeth Cynorthwyol, y Cydlynydd ADY a'r Rheolwr Busnes. Yn 2022/2023 bydd ein carfan Blwyddyn 11 gyntaf yn sefyll eu TGAU.

At Caer Elen anelwn at arloesi a rhagori ym mhob agwedd ar ein gwaith beunyddiol. Rydym yn gynhwysol ac yn gefnogol i’n gilydd ac mae ein hethos yn seiliedig ar werthoedd caredigrwydd, tegwch, parch a dyfalbarhad. Dathlwn ein diwylliant a’n hunaniaeth Gymreig a’r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob mes yn tyfu'n Dderwen gref.

Ysgol Caer Elen

​Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol pob oed cyfrwng Cymraeg 3-16 a agorwyd ar gyrion Hwlffordd, Sir Benfro ym mis Medi 2018. Fe’i sefydlwyd yn dilyn cau Ysgol Glan Cleddau a fu’n gweithredu fel ysgol gynradd Gymraeg y dref ers 1995. .

Adeiladwyd yr adeilad newydd gan Willmott Dixon ac mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf.

Awdurdod Addysg Lleol:


Cyngor Sir Penfro

Hysbysiadau HYSBYSIAD
Fforwm Ysgolion Pob Oed yn croesawu Ysgol Bro Caereinion yn gynnes i'n fforwm.
GWELD POPETH
Cyfarfodydd i ddod
Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!
English English Cymraeg Cymraeg