Robert Jenkins

Robert Jenkins
Ysgol Bro Teifi
Ysgol 3-16

Bio

Dechreuodd Robert Jenkins ei waith fel athro ysgol gynradd yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Ar ôl pum mlynedd yno, daeth yn bennaeth ysgolion Glandwr a Cilgerran yn Sir Benfro cyn dychwelyd i Ceredigion fel Pennaeth Ysgol Gynradd Aberteifi ym mis Ionawr 2009. Yn ystod yr amser hwn gwelodd yr ysgol newid categori iaith i ysgol gyfrwng Gymraeg. Yn 2013 cafodd ei secondio i weithio fel Cynghorydd Her cyn dechrau yn ei swydd bresennol fel Pennaeth Ysgol Bro Teifi ym mis Medi 2015. Mae hefyd wedi arolygu gydag Estyn, yn gyntaf fel Arolygydd Cymheiriaid cyn cymhwyso fel Arolygydd Cofrestredig yn 2014

Ysgol Bro Teifi

Mae Ysgol Bro Teifi yn cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf i'r holl ddisgyblion, o'r ieuengaf i'r hynaf. Dyma’r ysgol bob oed gyfrwng Cymraeg bwrpasol gyntaf a adeiladwyd yng Nghymru, yn dilyn buddsoddiad o £ 25m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth y Cynulliad.

Awdurdod Addysg Lleol:


Cyngor Sir Ceredigion

Hysbysiadau HYSBYSIAD
Fforwm Ysgolion Pob Oed yn croesawu Ysgol Bro Caereinion yn gynnes i'n fforwm.
GWELD POPETH
Cyfarfodydd i ddod
Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!
English English Cymraeg Cymraeg