Ysgol Godre'r Berwyn – Ymchwil Addysgu a Dysgu

Fforwm Ysgolion Pob Oed – Cyflwyno'r Holiadur Ymchwil

Ysgol neu Ysgolion sy'n Cymryd Rhan:

Ysgol Godre'r Berwyn

Awdurdod lleol a/neu Gonsortia?

Gwynedd

Ymchwilwyr Staff sy'n Cymryd Rhan:

Bethan Emyr, Maria Jones, Glesni Evans, Sioned Roberts

Thema:

Datblygu Cwricwlwm Newydd i Gymru, Datblygu Dysgu ac Addysgu mewn ysgolion pob oed.

Os “arall” nodwch:

Dim

Rhesymeg dros y dewis thema:

Mae angen arbrofi a threialu dulliau newydd o addysg wrth symud tuag at y Cwricwlwm i Gymru. Mae angen datblygu annibyniaeth a sgiliau ymholi dysgwyr. Hwyluso’r pontio o flwyddyn 6 i 7.

Beth oedd cwestiwn yr ymchwil?

A yw gwersi prosiect ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn hyrwyddo dysgwyr i ddefnyddio eu medrau ymholi yn annibynnol?

Pa ddyluniad ymchwil a ddefnyddiwyd?

Ymchwil Addysgol. (Arholi addysg a dysg), Ymchwil Ymarferwyr. (Ymchwil gan ymarferwyr ysgol).

Os “arall” nodwch.

Dim

Dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd.

Holiaduron, Grwpiau Ffocws.

Os “arall” nodwch.

Dim

Sut y defnyddiwyd y cyllid i ddarparu adnoddau ar gyfer y dyluniad? (Ticiwch bob un sy'n berthnasol)

Staff cyflenwi, ymweliadau staff.

Os “arall” nodwch.

Dim

Beth oedd amcanion yr ymchwil?

Hwyluso’r cyfnod pontio i fyfyrwyr blwyddyn 7 drwy gynnig darpariaeth debyg i’r hyn a gynigir yn y cynradd, drwy gyflwyno gwersi prosiect i’r amserlen. Y nod oedd parhau i ddatblygu sgiliau a gyflwynwyd mewn gwersi MDaPh trwy gynllunio gweithgareddau trawsgwricwlaidd a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymholi a datrys problemau yn annibynnol.

Beth oedd canlyniadau'r ymchwil?

Mae'r gwersi prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'r holl ddysgwyr yn frwdfrydig o fewn y gwersi. Mae sgiliau annibynnol y plant yn sicr wedi datblygu, ac mae’r pedwar diben yn cael eu datblygu’n naturiol. Mae cynnydd amlwg yn hyder staff i arbrofi gyda'u cynllunio a'u haddysgeg.

Sut mae’r broses ymchwil wedi effeithio ar yr ysgol?

  • Amserlennu – Sicrhau bod 3 gwers prosiect yr wythnos ar gyfer blwyddyn 7 ac 8.
  • Sgiliau ymholi annibynnol – cynnydd sylweddol
  • Cynllunio – mae hyder staff wrth gynllunio gweithgareddau trawsgwricwlaidd wedi datblygu.
  • Addysg – mae hyder staff i arbrofi, rhannu arferion da, a threialu syniadau newydd wedi datblygu.

Beth, os o gwbl, yw'r meysydd posibl ar gyfer ymchwil dilynol?

A yw gwersi prosiect yn fwy effeithiol gyda grwpiau gallu cymysg neu grwpiau gallu tebyg?

Sut mae unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r ymchwil wedi'u gweithredu?

  • Rhannu sesiynau ac arferion da gyda holl staff yr ysgol.
  • Cydweithio agos iawn rhwng y tîm gwersi prosiect i gynllunio a sicrhau cysondeb.

A all yr ysgol wneud argymhellion i ysgolion eraill yn seiliedig ar yr ymchwil?

Byddwn yn sicr yn parhau i gynnal gwersi prosiect ac yn parhau i arbrofi i ddatblygu ymhellach.

Ymarfer ymchwil moesegol

Mae'r ysgol yn cadarnhau bod yr ymchwiliad y manylir arno uchod wedi'i gynnal yn unol â Chanllawiau Moesegol ar gyfer Ymchwil Addysgol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain 2018. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys caniatâd cyfranogwr, tryloywder, yr hawl i dynnu'n ôl, cymhellion, osgoi niwed, preifatrwydd a storio data, a datgelu.

Awdur yr Adroddiad:

Bethan Emyr Jones

Dyddiad yr Adroddiad:

30-01-2024

Diolchiadau

Bethan Emyr, Maria Jones, Glesni Evans, Sioned Roberts

Ysgolion a gynhwyswyd yn yr ymchwil:

Ysgol Godre'r Berwyn

AWDURON

Bethan Emyr Jones

Gadael ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Meysydd gofynnol wedi'u marcio *

Hysbysiadau HYSBYSIAD
Fforwm Ysgolion Pob Oed yn croesawu Ysgol Bro Caereinion yn gynnes i'n fforwm.
GWELD POPETH
Cyfarfodydd i ddod
Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!
English English Cymraeg Cymraeg