Cyrchwch yr holl ymchwil Ysgolion Pob Oed diweddaraf.
Cyrchwch gyflwyniadau o gyfarfodydd fforwm blaenorol.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol XNUMX-XNUMX wedi'i lleoli yn Nyffryn Abertawe ac mae ein cynnig addysgol yn seiliedig ar ehangu gorwelion a chodi dyheadau ac uchelgeisiau ein holl ddysgwyr mewn cymuned ofalgar a chefnogol. Sefydlwyd yr Ysgol yn XNUMX gan gyfuno Ysgol Gynradd Gymraeg y Wern ag Ysgol Gyfun Ystalyfera; rydym hefyd yn ysgol campws deuol gyda safle XNUMX-XNUMX ym Mhort Talbot. Fel ysgol Arloesi ers XNUMX, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r cwricwlwm newydd, gyda’r ffocws ar ddatblygu cwricwlwm ac addysgeg ar hyd y continwwm oedran i gyflawni’r weledigaeth genedlaethol.
Mae'r ysgol yn falch o'i thraddodiad, sy'n ymestyn dros ddeugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr yn y maes chwaraeon, yn y Celfyddydau ac mewn ystod o feysydd galwedigaethol. Mae llwyddiant rheolaidd a pharhaus ein myfyrwyr mewn arholiadau allanol, yn ogystal ag o fewn llu o feysydd allgyrsiol yn dyst i'r traddodiad rhagorol hwnnw.
Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot
Mae'r wefan hon yn estyniad naturiol o Fforwm Ysgolion Pob Oed Cymru, sydd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhannu syniadau ers 2017 a diolchwn i LlCC Addysg am ariannu'r prosiect hwn.
Hawlfraint © 2021 – 2024. Ysgolion Pob Oed Fforwm Ysgolion Pob Oed | Polisi preifatrwydd
Gwefan wedi'i dylunio a'i chynnal gan EveryDesign.org © Cedwir Pob Hawl