... ... ... ... ... ... ... ... ... ... ... ... ... ... ... Croeso i’r ... _____________________________ Fforwm Ysgolion Pob Oed
All Age Schools Forum

Croeso

Mae'r wefan hon yn estyniad o Fforwm Ysgolion Pob Oed Cymru, sydd wedi bod yn rhannu syniadau ers 2017 a diolchwn i LlCC Addysg am ariannu'r prosiect.

Mae'r sector arloesol hwn wedi tyfu o ddwy ysgol yn 2012 i 26 yn 2020. Ar y cychwyn, enillwyd ein dealltwriaeth a'n gwybodaeth o'r ffordd orau i wneud i'n hysgolion gyflawni eu potensial trwy dreial a chamgymeriad. Yn fwy diweddar mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu trwy ein cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe. Mae yna gorff helaeth o wybodaeth a phrofiad o hyd mewn ysgolion unigol a allai fod o fudd i eraill ar wahanol adegau ar eu taith.

Mae'n amlwg y gall Ysgolion Pob Oed gynnig rhywbeth gwahanol a chyffrous. Er eu bod yn strwythurau cymhleth yn eu hanfod i'w sefydlu a'u rheoli, gall deall yn fanwl sut mae eraill yn gweithredu gefnogi arweinwyr i ddatblygu eu Hysgolion Pob Oed. Yn syml, ein nod yw rhannu ein gwybodaeth trwy'r wefan hon er budd pawb. 

Huw Lloyd
Cadeirydd 20/21 

Fideo cyflwyno:
Newyddion a Blog

Diweddariadau a newyddion diweddaraf

English English Cymraeg Cymraeg