Cyrchwch yr holl ymchwil Ysgolion Pob Oed diweddaraf.
Cyrchwch gyflwyniadau o gyfarfodydd fforwm blaenorol.
Helo. Dorian Pugh yw'r enw ac rydw i'n Bennaeth Ysgol Henry Richard yng Ngheredigion ers mis Ionawr 2016. Sefydlwyd yr ysgol hon sy'n darparu addysgu ar gyfer plant 3 i 16 oed yn 2014 gydag uno dwy ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd a gweithredodd ar 3 gwahanol safle. Yn olaf, agorwyd y drysau i ysgol un safle ym mis Hydref 2018.
Mae croeso mawr i chi gysylltu os hoffech gael sgwrs ar sut rydym yn gweithredu fel ysgol pob oed mewn ardal wledig.
Mae ein harwyddair “Mewn gwaith mae elw” yn crisialu ein nod i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial trwy waith caled a chefnogaeth gan ein hathrawon ymroddedig. Rydyn ni yma i weithio gyda'n gilydd i greu Ysgol hapus a llwyddiannus o'r safon uchaf. Disgwyliwn y safonau gorau posibl gan ein disgyblion a byddwn yn gwneud ein gorau glas i roi pob cyfle ac arweiniad iddynt. Yng nghymuned yr ysgol, rydym yn credu'n gryf mewn cydnabod a dathlu cyflawniadau disgyblion p'un a ydynt yn academaidd, ddiwylliannol neu chwaraeon a dangosir y gefnogaeth hon ar y wefan hon.
Mae gan yr Ysgol hunaniaeth Gymraeg gref iawn sy'n adlewyrchu'r ardal, y disgyblion a'r teuluoedd y mae'n eu gwasanaethu. Trwy'r 'Cwricwlwm Cymraeg' rydym ni, o ddydd i ddydd, yn hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg, hanes a diwylliant Cymru. Cynigir addysg trwy gyfrwng Cymraeg mewn ystod eang o'n pynciau.
Rydym yn credu mewn gweithio'n agos mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau allanol i alluogi'r disgyblion i gyflawni eu nodau. Gofynnwn yn garedig i rieni gyd-lofnodi'r Cyswllt Ysgol / Cartref sy'n cydnabod y bartneriaeth hon yn ffurfiol trwy nodi'r meysydd lle gall yr ysgol a'r cartref gydweithredu.
Ein gweledigaeth yw “Cydweithio i greu ysgol lwyddiannus sy'n sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial mewn amgylchedd diogel, heriol, cefnogol a chyfeillgar."
Cyngor Sir Ceredigion
Mae'r wefan hon yn estyniad naturiol o Fforwm Ysgolion Pob Oed Cymru, sydd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn rhannu syniadau ers 2017 a diolchwn i LlCC Addysg am ariannu'r prosiect hwn.
Hawlfraint © 2021 – 2024. Ysgolion Pob Oed Fforwm Ysgolion Pob Oed | Polisi preifatrwydd
Gwefan wedi'i dylunio a'i chynnal gan EveryDesign.org © Cedwir Pob Hawl