Trystan Edwards

Trystan Edwards
Ysgol Garth Olwg
Ysgol Bob Oed 3-19

Bio

Yn dilyn cyfnod fel Pennaeth Ysgol Garth Olwg, cefais fy mhenodi i sefydlu ac arwain yr ysgol 3-19 newydd, sef Ysgol Garth Olwg a agorodd ym mis Medi 2019. Mae'r ysgol ar Gampws Dysgu Garth Olwg Garth Olwg, ym Mhentref yr Eglwys ger Pontypridd. Mae'n parhau i fod yn gyfnod hynod gyffrous gyda thîm o staff brwdfrydig yn cydweithio'n effeithiol i sefydlu'r ysgol newydd. Mae'n fraint i ni fod yn rhan o'r Fforwm Ysgolion Pob Oed Cymru sy'n darparu platfform ac yn gatalydd ar gyfer y gwaith ymchwil sy'n ganolog i'n gweledigaeth yn Garth Olwg.

Ysgol Garth Olwg

Rydym yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth Gymreig gref, ein hanes arloesol a'n treftadaeth gref, ac rydym yn llwyr werthfawrogi pwysau ein cyfrifoldeb wrth sicrhau bod Ysgol 3 - 19 Garth Olwg yn darparu'r addysg orau un i'n dysgwyr.

Mae ethos yr ysgol yn seiliedig ar y gwerthoedd craidd canlynol:

  • Meithrin Parch
  • Annog uchelgais
  • Cydweithio fel Un Gymuned

Trwy ganolbwyntio ar y gwerthoedd hyn, bydd gan ein dysgwyr y sylfaen sy'n eu galluogi i symud ymlaen yn hapus trwy'r ysgol a gwireddu eu potensial llawn.

Awdurdod Addysg Lleol:


Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Hysbysiadau HYSBYSIAD
Fforwm Ysgolion Pob Oed yn croesawu Ysgol Bro Caereinion yn gynnes i'n fforwm.
GWELD POPETH
Cyfarfodydd i ddod
Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!
English English Cymraeg Cymraeg