Fforwm Ysgolion Pob Oed – Cyflwyno'r Holiadur Ymchwil
Ysgol neu Ysgolion sy'n Cymryd Rhan:
Ysgol Godre'r Berwyn
Awdurdod lleol a/neu Gonsortia?
Gwynedd
Ymchwilwyr Staff sy'n Cymryd Rhan:
Bethan Emyr, Maria Jones, Glesni Evans, Sioned Roberts
Thema:
Datblygu Cwricwlwm Newydd i Gymru, Datblygu Dysgu ac Addysgu mewn ysgolion pob oed.
Os “arall” nodwch:
Dim
Rhesymeg dros y dewis thema:
Mae angen arbrofi a threialu dulliau newydd o addysg wrth symud tuag at y Cwricwlwm i Gymru. Mae angen datblygu annibyniaeth a sgiliau ymholi dysgwyr. Hwyluso’r pontio o flwyddyn 6 i 7.
Beth oedd cwestiwn yr ymchwil?
A yw gwersi prosiect ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn hyrwyddo dysgwyr i ddefnyddio eu medrau ymholi yn annibynnol?
Pa ddyluniad ymchwil a ddefnyddiwyd?
Ymchwil Addysgol. (Arholi addysg a dysg), Ymchwil Ymarferwyr. (Ymchwil gan ymarferwyr ysgol).
Os “arall” nodwch.
Dim
Dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd.
Holiaduron, Grwpiau Ffocws.
Os “arall” nodwch.
Dim
Sut y defnyddiwyd y cyllid i ddarparu adnoddau ar gyfer y dyluniad? (Ticiwch bob un sy'n berthnasol)
Staff cyflenwi, ymweliadau staff.
Os “arall” nodwch.
Dim
Beth oedd amcanion yr ymchwil?
Hwyluso’r cyfnod pontio i fyfyrwyr blwyddyn 7 drwy gynnig darpariaeth debyg i’r hyn a gynigir yn y cynradd, drwy gyflwyno gwersi prosiect i’r amserlen. Y nod oedd parhau i ddatblygu sgiliau a gyflwynwyd mewn gwersi MDaPh trwy gynllunio gweithgareddau trawsgwricwlaidd a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymholi a datrys problemau yn annibynnol.
Beth oedd canlyniadau'r ymchwil?
Mae'r gwersi prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'r holl ddysgwyr yn frwdfrydig o fewn y gwersi. Mae sgiliau annibynnol y plant yn sicr wedi datblygu, ac mae’r pedwar diben yn cael eu datblygu’n naturiol. Mae cynnydd amlwg yn hyder staff i arbrofi gyda'u cynllunio a'u haddysgeg.
Sut mae’r broses ymchwil wedi effeithio ar yr ysgol?
- Amserlennu – Sicrhau bod 3 gwers prosiect yr wythnos ar gyfer blwyddyn 7 ac 8.
- Sgiliau ymholi annibynnol – cynnydd sylweddol
- Cynllunio – mae hyder staff wrth gynllunio gweithgareddau trawsgwricwlaidd wedi datblygu.
- Addysg – mae hyder staff i arbrofi, rhannu arferion da, a threialu syniadau newydd wedi datblygu.
Beth, os o gwbl, yw'r meysydd posibl ar gyfer ymchwil dilynol?
A yw gwersi prosiect yn fwy effeithiol gyda grwpiau gallu cymysg neu grwpiau gallu tebyg?
Sut mae unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r ymchwil wedi'u gweithredu?
- Rhannu sesiynau ac arferion da gyda holl staff yr ysgol.
- Cydweithio agos iawn rhwng y tîm gwersi prosiect i gynllunio a sicrhau cysondeb.
A all yr ysgol wneud argymhellion i ysgolion eraill yn seiliedig ar yr ymchwil?
Byddwn yn sicr yn parhau i gynnal gwersi prosiect ac yn parhau i arbrofi i ddatblygu ymhellach.
Ymarfer ymchwil moesegol
Mae'r ysgol yn cadarnhau bod yr ymchwiliad y manylir arno uchod wedi'i gynnal yn unol â Chanllawiau Moesegol ar gyfer Ymchwil Addysgol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain 2018. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys caniatâd cyfranogwr, tryloywder, yr hawl i dynnu'n ôl, cymhellion, osgoi niwed, preifatrwydd a storio data, a datgelu.
Awdur yr Adroddiad:
Bethan Emyr Jones
Dyddiad yr Adroddiad:
30-01-2024
Diolchiadau
Bethan Emyr, Maria Jones, Glesni Evans, Sioned Roberts
Ysgolion a gynhwyswyd yn yr ymchwil:
Ysgol Godre'r Berwyn
AWDURON
Bethan Emyr Jones
Gadael ymateb